Lyon
Gwedd
| Math | cymuned, Cymuned Ffrainc gyda statws arbennig, dinas fawr, tref goleg |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Lugdunum |
| Poblogaeth | 519,127 |
| Pennaeth llywodraeth | Grégory Doucet |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Jericho, Leipzig, Łódź, Varna, Birmingham, Milan, Frankfurt am Main, St. Louis, Guangzhou, Beersheba, Minsk, Yokohama, Craiova, St Petersburg, Manila, Yerevan, Beirut, Curitiba, Aleppo, Mykolaiv, Pécs, Kutaisi, Bwrdeistref Göteborg, Samarcand, Košice, Ouagadougou, Kyiv, Dinas Ho Chi Minh, Bălţi, Sétif, Paterson |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Metropolis Lyon |
| Sir | Metropolis Lyon |
| Gwlad | Ffrainc |
| Arwynebedd | 47.87 km² |
| Uwch y môr | 173 ±1 metr, 160 metr, 312 metr |
| Gerllaw | Afon Rhône, Afon Saône, Llyn Tête d'Or |
| Yn ffinio gyda | Saint-Cyr-au-Mont-d'Or, Saint-Didier-au-Mont-d'Or, Saint-Fons, Sainte-Foy-lès-Lyon, Tassin-la-Demi-Lune, Vénissieux, Villeurbanne, Bron, Caluire-et-Cuire, Champagne-au-Mont-d'Or, Collonges-au-Mont-d'Or, Écully, Francheville, La Mulatière, Oullins-Pierre-Bénite |
| Cyfesurynnau | 45.7675°N 4.835°E |
| Cod post | 69001, 69002, 69003, 69004, 69005, 69006, 69007, 69008, 69009 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Lyon |
| Pennaeth y Llywodraeth | Grégory Doucet |
![]() | |
Dinas a commune yn ne-ddwyrain Ffrainc yw Lyon. Saif ger y fangre lle mae afonydd Rhône a Saône yn cwrdd. Mae'n brifddinas département Rhône a région Auvergne-Rhône-Alpes. Ar ôl Paris a Marseilles, Lyon yw'r drydedd ddinas fwyaf yn Ffrainc o ran poblogaeth, ac ail ddinas weinyddol y wlad.
Gelwir trigolion y ddinas yn Lyonnais.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae gan Lyon hanes hir. Sefydlwyd hi gan y Celtiaid. Lugdunum (sef 'Dinas Lugh') oedd ei henw yng nghyfnod y Rhufeiniaid: roedd hi'n brifddinas talaith Gallia Lugdunensis yng Ngâl.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Eglwys Gadeiriol Saint-Jean
- Eglwys Notre-Dame de Fourvière
- Gare de Lyon Saint-Exupéry
- Place Bellecour
- Tŵr Crédit Lyonnais
- Tŵr Incity
- Tŵr Oxygène
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus (10CC-OC54), Ymerawdr Rhufeinig
- Marcus Aurelius Antoninus Basianus (Caracalla) (186-217), Ymerawdr Rhufeinig
- Philippe V (1292-1322), brenin Ffrainc
- André-Marie Ampère (1775-1836), ffisegydd
- Antoine de Saint-Exupéry (1900-1944), awdur
- Maurice Jarre (1924-2009), cyfansoddwr
- Jean Michel Jarre (g. 1948), cerddor
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Gwefan Swyddogol Lyon
Dinasoedd Ffrainc
