Skip to content

cymerwch ran

SŴN CYSYLLTU: Rhaglen Mentora

Fel rhan o’n cynhadledd, rydyn ni’n gwahodd artistiaid a’r diwydiant ifanc yng Nghymru i wneud cais i gymryd rhan yn ein Rhaglen Mentora sy’n cysylltu artistiaid a diwydiant Cymru ag arbenigwyr diwydiant cerddoriaeth ledled gwledydd Prydain fel asiantau, rheolwyr, cyhoeddwyr, hyrwyddwyr, gwyliau, cyfreithwyr a chynhyrchwyr.

Rydyn ni’n sicrhau mynediad i’r ymgeiswyr llwyddiannus at:

  • Raglen lawn cynhadledd Sŵn Cysylltu
  • Cyfarfod wyneb yn wyneb gyda mentoriaid o’r diwydiant
  • Cymysgwyr Sŵn Cysylltu
  • Darperir lluniaeth a byrbrydau ysgafn ym mhob gweithgaredd cynhadledd

Mae hwn yn gyfle unigryw i ymgysylltu â’r diwydiant cerddoriaeth ehangach a hynny wyneb yn wyneb dros 3 diwrnod.

Ceisiadau’n fyw yn fuan

Gwneud Cais i Wirfoddoli

Mae Gwirfoddolwyr Sŵn yn cyflawni ystod fawr o dasgau a dyletswyddau ar draws yr ŵyl. Bydd y rolau yma’n gweithio gyda chwsmeriaid ac artistiaid, felly rydyn ni’n chwilio am bobl hyderus, weithgar a chyfeillgar i ymuno â thîm Gŵyl Sŵn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen am y rolau gwirfoddol ar ein gwefan cyn gwneud cais.

Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydyn ni’n eu cael ar gyfer Gwirfoddolwyr Gŵyl Sŵn, byddwn yn gofyn i chi ddewis tair rôl wirfoddol a’u gosod mewn trefn. Byddwn yn ceisio eich gosod yn eich dewis cyntaf o rôl os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, ond efallai na fydd hyn yn bosib.

GOFYNION HANFODOL

  1. Bydd angen i chi fod yn 18 oed ar 15 Hydref 2026 neu cyn hynny i wneud cais. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth adnabod gyda llun yn y ffurflen yma ac ar benwythnosyr ŵyl fel prawf o’ch oedran.
  2. Bydd angen i chi fod ar gael ar o leiaf 2 o ddyddiadau’r ŵyl i fod yn gymwys i wirfoddoli.

GOFYNION DYMUNOL

  1. Bydd sesiwn friffio i wirfoddolwyr yng Nghlwb Ifor Bach cyn yr ŵyl. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda’r manylion.
  2. Byddai’n ddymunol pe baech chi’n gallu siarad Cymraeg a Saesneg ond nid yw hyn yn angenrheidiol i wneud cais i fod yn Wirfoddolwr Sŵn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffurflen neu am fod yn Wirfoddolwr Sŵn yn gyffredinol, anfonwch e-bost i swnfest@clwb.net

Ceisiadau’n fyw yn fuan

Ceisiadau’r Wasg

Byddwn ni’n agor cyfleoedd i chi wneud cais am bas i’r wasg ar gyfer Gŵyl Sŵn 2026 yn nes at adeg yr ŵyl.

Ceisiadau’n fyw yn fuan