Redfoo
| Rhybudd! |
Mae'r erthygl hon wedi ei thagio fel Erthygl nad yw - o bosib - yn ateb ein meini prawf ac felly mae posibilrwydd y caiff ei dileu gan Weinyddwr.
Gweler ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. Ni ddylech ddileu'r tag hwn o erthygl rydych wedi ei chreu eich hun ond yn hytrach - gadewch nodyn ar y Dudalen Sgwrs (neu dewiswch y Botwm isod) gan fynegi pam yn eich tyb chi y dylai'r erthygl aros ar Wicipedia. Mae'r penderfyniad a yw'n aros ai peidio, fodd bynnag, yn nwylo'r Gymuned, ac yn benodol: Gweinyddwr. Os nad chi a greodd yr erthygl, a chredwch na ddylai'r tag yma fod ar y dudalen hon, yna mae croeso i chi dynnu'r tag. Cofiwch nodi'r rhesymau pam. |
| Redfoo | |
|---|---|
| Ffugenw | Redfoo, Red Foo, Kendal |
| Ganwyd | Stephen Kendal Gordy 3 Medi 1975 Los Angeles |
| Label recordio | Interscope Records, Cherrytree Records, will.i.am Music Group |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr, rapiwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, troellwr disgiau, dawnsiwr, cyflwynydd teledu, actor, chwaraewr tenis, buddsoddwr, cyfansoddwr, cerddor |
| Arddull | rap poblogaidd, hip house, cerddoriaeth dawns electronig, electropop |
| Tad | Berry Gordy |
| Perthnasau | Sky Blu |
| Llinach | Gordy family |
| Gwefan | https://redfoo.com |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Canwr, rapiwr, cyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau a DJ o'r Unol Daleithiau yw Stefan Kendal Gordy (ganwyd 3 Medi 1975), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw llwyfan Redfoo.
Yn 2006, ffurfiodd y ddeuawd pop a dawns LMFAO gyda'i nai, SkyBlu (Skyler Austen Gordy). Rhyddhawyd dau albwm stiwdio ganddynt cyn iddynt wahanu yn 2012. Mae Redfoo yn fab ieuengaf i'r cynhyrchydd a sylfaenydd Motown Records, Berry Gordy.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Redfoo ar 3 Medi 1975 i Berry Gordy a'r awdures a chynhyrchydd Nancy Leiviska. Mynychodd ysgol ganol gyda'r cerddor will.i.am. Graddiodd o Ysgol Uwchradd Palisades yn Los Angeles, Califfornia ym 1995.
Er gwaethaf dylanwad cerddorol ei deulu, canolbwyntiodd ar denis pan oedd yn ifanc. Dechreuodd gymryd cerddoriaeth o ddifrif pan oedd yn 16 oed. Yn ddiweddarach, cymerodd ran mewn twrnameintiau tenis proffesiynol gan gynnwys ceisio cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau (US Open) yn 2013.
Gyrfa Gerddorol
[golygu | golygu cod]Ym 1993, cynhyrchodd Redfoo y gân "Back in the Day" ar gyfer y rapiwr Ahmad. Yn ddiweddarach, ffurfiodd LMFAO a chafodd lwyddiant byd-eang gyda senglau fel "Party Rock Anthem" a "Sexy and I Know It". Cyrhaeddodd y caneuon hyn rif un mewn llawer o wledydd ledled y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig.
Wedi i LMFAO wahanu, cychwynnodd Redfoo yrfa unigol. Rhyddhaodd senglau llwyddiannus fel "Bring Out the Bottles" (2012), "Let's Get Ridiculous" (2013) a "New Thang" (2014). Yn 2013, ymunodd â fersiwn Awstralia o'r rhaglen deledu The X Factor fel beirniad.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Albymau
[golygu | golygu cod]- Balance Beam (1997)
- Party Rock (2009) (fel rhan o LMFAO)
- Sorry for Party Rocking (2011) (fel rhan o LMFAO)
- Party Rock Mansion (2016)
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Very Heavy Love (2001) - heb gredyd
- Potheads: The Movie (2006)
- Last Vegas (2013)
- Alvin and the Chipmunks: The Road Chip (2015)
- Tattooed Love (2015)
- Deported (2020)