Portread
Darn ar y thema "Portread" a sgwenais (a methodd) mewn cystalaeaeth 'sgwennu 😅
Beth yw gwaddol y rhai mwyaf gymus yn ein cymdeithas? Ai anfarwoldeb eu henw, eu delwedd neu eu syniadau cyhoeddus?
Tybed sut fobl oeddynt o fewn muriau eu cartrefi? Be adawson hw ar ol yn llinach eu teuluoedd, a pa farc gadawsant ar eu cymunedau?
Beth yw gwaddol grym tu hwnt i eilun ddelwedd neu atsain enw?
Yn 2020, gyda ymchwydd mudiad Black Lives Matter, yn sgil blynyddoedd o ymdrech cymunedol yn adweithio i system o drais gan wladwriaeth, ac yn sgil hiliaeth amlwg ag anfad di-ben draw; penderfynwyd etifeddiaeth rhai yn angheilwng o’u hanredyddu.
Pa fath o fobol yr ydym ni os yr ydym yn codi celf cyhoeddus ar gyfer rhai a wnaeth areithio a lladd ar raddfa dorfol? Er mor amlwg a syml yw hyn - y mae gan lawer ymlyngiad sentimental tuag at hanes Ewop o drais. Be yn yr isymwybod sy’n peri rhywyn i seilio eu hunainaeth ar y trais yma drwy ethno-gendlaetholdeb?
Gwaddol y sawl yma - y rhai gwanethiom tynnu i lawr - oedd yr hiliaeth anfad sydd dal yn ein heintio fel cymdethas. Dyma oedd eu phrosiect, dyma’r mecanwaith a fwydodd eu gyrfaedd, eu statws a’u ffilmanthropi hyd yn oed.
Y mae datbacio hiliaeth, yn enwedig i ni pobl gwyn a Chymraeg yn rywbeth gweithredol - nid gwedd arall ar dreuliuo diwylliant neu ysgolheictod. Y mae celf a diswylliant yn leiafswm maes a dylwn unioni camau’r gorffenol - felly pam lai? Y broblem yw pan yr ydym yn stopio fana, heb gyffwrdd y system gyfalafol sy’n gyrru hiliaeth a goruchafiaeth gwyn yn ei flaen. Cyflafiaeth sy’n peri 1 mewn 3 plentyn yng Nghymru fyw mewn tlodi. Cyfalaiaeth a bair i ni hefyd feio y tlodi yma ar gymdogion newydd.
Y mae celf yn ddechrau - man cychwyn i fan cychwyn. Hedyn i’r dychymyg, - ond fiw i ni fodloni ar chwyldroi celf gan adael reliti i’r neilltu. Mae mudiadau perchnogaeth cymunedol (fel Cymunedoli) ar draws Cymru yn ymrafael a’r dasg o tynny’n grym yn ol gan y cofforaethau. Degawd yn ol, “Ni yw’r 99%” oedd ein cri - heddiw yn ol Oxfam, gall cyfoeth y 1% ddarfod tlodi byd eang 22 gwaith drosodd. Be yr ydym yn ei wneud yn unigol a chyfunol mewn difrif? Gofynaf hyn i’m hyn bron bob dydd.
Safwn (a syllwn) yn y bwlch - gya celf yn maethu ein breddwydion, meiddiwn i weithredu.

