Practical Magic
| Practical Magic | |
|---|---|
Poster | |
| Cyfarwyddwyd gan | Griffin Dunne |
| Cynhyrchwyd gan | Denise Di Novi |
| Sgript | |
| Yn serennu | |
| Cerddoriaeth gan | Alan Silvestri |
| Sinematograffi | Andrew Dunn |
| Golygwyd gan | Elizabeth Kling |
| Stiwdio |
|
| Dosbarthwyd gan | Warner Bros. |
| Rhyddhawyd gan |
|
| Hyd y ffilm (amser) | 104 munud[1] |
| Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Cyfalaf | $75 miliwn[2] |
| Gwerthiant tocynnau | $68.3 miliwn |
Ffilm ffantasi ramantaidd o'r Unol Daleithiau o 1998 yw Practical Magic. Seiliwyd y ffilm ar y nofel 1995 Practical Magic gan Alice Hoffman. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Griffin Dunne ac yn serennu Sandra Bullock, Nicole Kidman, Dianne Wiest, Stockard Channing, Aidan Quinn, a Goran Visnjic.
Mae Bullock a Kidman yn chwarae chwiorydd Sally a Gillian Owens, ill ddwy yn ddisgynyddion o linach hir o wrachod. Magwyd gan eu modrybedd ar ôl marwolaeth eu rhieni oherwydd melltith ar y teulu, dysgodd y chwiorydd sut i ddefnyddio swyngyfaredd yn ymarferol wrth iddynt dyfu. Fel oedolion, rhaid i Sally a Gillian ddefnyddio eu swyngyfaredd er mwyn dinistrio ysbryd drwg cariad camdriniol Gillian cyn iddo eu lladd hwythau.
Rhyddhawyd y ffilm ar 16 Hydref 1998. Gwnaeth y ffilm £50.87 miliwn ($68.3 miliwn) ar draws y byd yn erbyn cyllideb o £55 miliwn ($75 miliwn). Pan ddaeth y ffilm allan yn wreiddiol, derbyniodd sylw cymysg oddi wrth critigyddion, a oedd yn nodi bod y cymysgedd o wahanol genres yn ddryslyd, gan gynnwys ffantasi oruwchnaturiol, drama trais yn y cartref, comedi rhamantaidd, a drama threfniadol heddlu. Erbyn hyn, mae wedi ennill ddilyniaeth gwlt oherwydd ei chast, trac sain, a themâu ffeministaidd. Trefnir ffilm ddilyniant, o dan yr enw dros dro o Practical Magic 2, i'w rhyddhau ar 18 Medi 2026.
Derbyniad
[golygu | golygu cod]Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
- 4.6/10[3]
- 26%
- 47/100
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Practical Magic (12)". British Board of Film Classification. 27 Hydref 1998. Cyrchwyd 7 Mai 2025.
- ↑ "Practical Magic". Box Office Mojo. Cyrchwyd 23 Hydref 2024.
- ↑ "Practical Magic". Cyrchwyd 5 Hydref 2021.